Amdanom ni
Sefydlwyd Calan dros ugain mlynedd yn ôl ac mae’n gwmni cyfieithu profiadol, dibynadwy ac effeithlon, wedi'i leoli yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg. Rydym yn ymgymryd â’r ystod lawn o waith cyfieithu ysgrifenedig ar gyfer amrywiaeth eang o gleientiaid yn ddyddiol. Mae Calan yn Aelod Corfforaethol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac mae’r mwyafrir o’r staff hefyd yn aelodau unigol o'r Gymdeithas sy'n golygu eu bod wedi llwyddo i basio'r arholiadau mynediad llym:
​
https://www.cyfieithwyr.cymru/cy/aelodau/calan
​
Mae Calan yn rhan o Fframwaith Cyfieithu Llywodraeth Cymru sy'n rhestru cwmnïau cyfieithu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymeradwyo.
Mae ein tîm gweinyddol yn gyfeillgar ac yn groesawgar a byddant yn ymateb i geisiadau am ddyfynbrisiau neu ragor o wybodaeth o fewn 10 munud. Rydym wedi arfer â chyfieithu dogfennau o bob math a diwallu anghenion cleientiaid o ran arddull, cywair a fformat. Byddwn bob amser yn cadw'r gynulleidfa mewn cof ac yn sicrhau ein bod yn darparu cyfieithiadau clir, sy'n hawdd i'r gynulleidfa darged eu deall.