top of page
Gwasanaethau
​​
-
Cyfieithu
Dogfennau o bob math, adroddiadau blynyddol, disgrifiadau swydd, manylebau person, deunyddiau hyfforddi, polisïau, ewyllysiau, dogfennau cyllid, deunydd cyfathrebu a marchnata er enghraifft holiaduron, taflenni, erthyglau newyddion, blogiau, isdeitlau fideos, arolygon a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
​
-
Golygu
Bydd un o’n huwch-gyfieithwyr yn darllen ac yn golygu pob un o’n cyfieithiadau ni ond gallwn wneud hynny hefyd i unrhyw ddeunydd neu gyfieithiadau sydd gennych eisoes, yn Gymraeg ac yn Saesneg.​
​
-
Prawf-ddarllen
​Mae’n hollbwysig bod proflenni yn cael eu prawf-ddarllen ar ôl bod trwy’r broses ddylunio oherwydd gall pethau fynd o chwith yn hawdd ar yr adeg hon. Rydym yn prawf-ddarllen posteri ac eitemau byr am ddim yn rhan o’n prosiectau cyfieithu ni.
​
-
Ysgrifennu copi
Os oes gennych chi brosiect ar y gweill ac angen llunio copi trawiadol ar ei gyfer gallwn ni ysgrifennu copi ar eich rhan yn Gymraeg ac yn Saesneg.
​
-
Cyngor ieithyddol
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r Gymraeg neu angen creu hashnod neu slogan bachog ar gyfer prosiect newydd cysylltwch â ni ac fe gewch gyngor ac awgrymiadau am ddim!
bottom of page